Ym mis Tachwedd 2014, o ganlyniad i wneud cais llwyddiannus am grant i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, cafodd prosiect Cynefin ei lansio gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Amcan y prosiect hwn oedd diogelu a digido mapiau degwm Cymru, eu rhoi ar-lein, a defnyddio gwirfoddolwyr ar-lein wedyn i geogyfeirio’r mapiau degwm a thrawsgrifio cofnodion perthnasol yn y dogfennau mynegai sy’n gysylltiedig â hwy.
Beth yw Mapiau Degwm? Tâl a godwyd ar ddefnyddwyr tir oedd y degwm. Yn wreiddiol, cafodd taliadau degwm eu gwneud ar ffurf nwyddau fel cnydau, gwlân, llaeth ac anifeiliaid fferm. Cafodd mapiau degwm eu cynhyrchu rhwng 1838 a 1850 i sicrhau bod pob degwm yn cael ei dalu ag arian yn hytrach nag mewn nwyddau. Y rhain yw mapiau mwyaf manwl eu cyfnod ac maent hwy ar gael ar gyfer mwy na 95% o Gymru. Mae’r dogfennau mynegai ar gyfer pob map yn rhestru’r degymau sy’n daladwy, enwau’r tirfeddianwyr a deiliaid y tir, defnydd y tir, ac, yn y mwyafrif o achosion (75%), enwau’r caeau.
Mae oddeutu 198,000 o’r enwau caeau a gofnodwyd gan wirfoddolwyr ar-lein y prosiect wedi’u cynnwys ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, sef tua 65% o’r holl enwau caeau a gaiff eu cynnwys ar y Rhestr o ganlyniad i’r prosiect. Gobeithiwn ychwanegu’r 100,000 o enwau sy’n weddill erbyn mis Gorffennaf 2017.
I ddysgu mwy am brosiect Cynefin, cliciwch yma.
Yn 2013 fe lansiodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru wefan newydd i harneisio grym gwirfoddolwyr i gofnodi holl enwau lleoedd Cymru fel yr oeddynt yn ymddangos ar fapiau Arolwg Ordnans diwedd y cyfnod Fictoraidd.
Prosiect arloesol cydweithredol oedd Cymru1900Wales.org a ofynnodd i ymwelwyr â’r wefan astudio mapiau hanesyddol o Gymru, wedi’u cyhoeddi gan yr Arolwg Ordnans rhwng 1899 a 1908, a chofnodi a geoleoli’r holl destun oedd yn cael ei ddangos ar y mapiau: enwau trefi, pentrefi, coetiroedd, ffermydd, afonydd, tarddellau, plastai ac ati.
Ymhen amser, roedd gwirfoddolwyr gwefan Cymru1900Wales.org wedi trawsgrifio oddeutu 294,000 o gofnodion o’r mapiau 6 modfedd i’r filltir o Gymru yng Nghyfres y Siroedd yr Arolwg Ordnans, Ail Argraffiad. Cafodd llwyddiant y fethodoleg a ddatblygwyd gan bartneriaid y prosiect ei gadarnhau pan ehangwyd y bartneriaeth a’r wefan yn 2016. Gyda chyfraniad partneriaid newydd, sef Prifysgol Portsmouth a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, datblygwyd y platfform ymhellach wrth greu’r wefan GB1900.org hynod o lwyddiannus.
Mae tua 125,000 o gofnodion o brosiect Cymru1900 wedi’u cynnwys yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (roedd llawer o’r data gwreiddiol yn cynnwys data heblaw am enwau lleoedd, wedi’u defnyddio gan yr AO i ddynodi nodweddion megis llwybrau troed, chwareli, tarddellau ac ati), ac mae’r rhain yn ymdrin yn drylwyr iawn â phob rhan o Gymru ac yn sicrhau, ni waeth ble yng Nghymru y byddwch chi’n chwilio, y dewch o hyd i enwau lleoedd fel yr oeddynt yn ymddangos pan gafodd y mapiau Arolwg Ordnans eu cyhoeddi ar ddechrau’r 20fed ganrif.
I ddysgu mwy am brosiect GB1900, cliciwch yma.