Skip to main content

Ymysg y pethau da di-rif y mae Menter Iaith Sir Benfro yn eu gwneud i hybu'r Gymraeg yn y sir yr oedd prosiect o'r enw Perci Penfro. Bu hwn yn brosiect i gasglu enwau caeau yng ngogledd y sir, gan amlygu natur unigryw y dafodiaith leol, tra'n dod â phobl ynghŷd i ymhyfrydu yn y diwylliant brodorol, a hynny yn Gymraeg. Casglwyd rhyw dwy fil o enwau o'r Preselau, Tir Dewi a thu hwnt gan drigolion lleol, gyda llwyth o fapiau yn dangos lleoliadau'r caeau, a rhoi'r cyfan yn nwylo'r Menter Iaith. Maent hwy bellach wedi eu pasio ymlaen atom ni.

Mae'r Comisiwn wedi rhoi'r gwaith o fewnbynnu'r wybodaeth hon i Veronika Todorova, yn wreiddiol o Fwlgaria, sy'n fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Bydd hi'n gwneud interniaeth pedair wythnos er mwyn ein cynorthwyo gyda'r prosiect, a chael profiad o weithio mewn gweithle cyfrwng Cymraeg.