Skip to main content

Hygyrchedd

 

Mae gwefan enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk wedi’i chynllunio i fod mor hygyrch a defnyddiadwy â phosibl i bob defnyddiwr ac fe’i hadeiladwyd gan ddilyn safonau cyffredin y we.

Polisi ynghylch Hygyrchedd

Ein nod yw cyrraedd safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG 2.0). Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut mae peri i gynnwys y we fod yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau ac iddo fod yn hawdd i bawb ei ddefnyddio. Lle bynnag y bydd modd, ein nod yw:

– Darparu dewisiadau testun ar gyfer cynnwys di-destun.
– Darparu capsiynau a dewisiadau eraill ar gyfer deunydd amlgyfrwng.
– Creu cynnwys y gellir ei gyflwyno mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys gwneud hynny drwy ddefnyddio technolegau cynorthwyol, heb golli ystyr.
– Ei gwneud hi’n haws i’r defnyddwyr weld a chlywed y cynnwys.
– Trefnu i bob swyddogaeth fod ar gael drwy ddefnyddio bysellfwrdd.
– Rhoi digon o amser i’r defnyddwyr ddarllen a defnyddio’r cynnwys.
– Peidio â defnyddio cynnwys sy’n parlysu’r wefan.
– Helpu’r defnyddwyr i lywio’u ffordd drwy’r wefan a dod o hyd i’r cynnwys.
– Trefnu i’r testun fod yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy.
– Peri i’r cynnwys ymddangos a gweithredu mewn ffyrdd rhagweladwy.
– Helpu’r defnyddwyr i osgoi camgymeriadau a chywiro camgymeriadau.
– Cynyddu hyd yr eithaf y cymaroldeb â’r offer y bydd defnyddwyr yn eu defnyddio heddiw ac yfory.

Porwyr

Cymhwysiad meddalwedd yw porwr a chaiff ei ddefnyddio i adalw, cyflwyno a theithio ar draws adnoddau gwybodaeth ar y We Fyd-Eang. Adeiladwyd gwefan enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk i weithio orau gyda’r porwyr pen-desg a symudol diweddaraf, a gall hynny olygu y gallai porwyr hŷn arddangos cyflwyniadau o rai cydrannau mewn arddull wahanol ond cwbl weithredol. Cynorthwywn y fersiynau diweddaraf o’r porwyr a’r llwyfannau hyn:

  CHROME FIREFOX INTERNET EXPLORER OPERA SAFARI
ANDROID Cynorthwyir Cynorthwyir D/A/G Ni chynorthwyir mohono D/A/G
IOS Cynorthwyir D/A/G Ni chynorthwyir mohono Cynorthwyir
MAC OS X Cynorthwyir Cynorthwyir Cynorthwyir Cynorthwyir
WINDOWS Cynorthwyir Cynorthwyir Cynorthwyir Cynorthwyir Ni chynorthwyir mohono

I ddiweddaru’ch porwr i gael y fersiwn diweddaraf ohono, dilynwch y cysylltau hyn:

Google Chrome
Mozilla Firefox
Microsoft Internet Explorer
Opera
Apple Safari