Skip to main content

Rheolau’r Gymuned

1. Rydych yn cytuno na fyddwch yn cymryd unrhyw gamau i uwchlwytho, postio, e-bostio na thrawsyrru mewn modd arall Gynnwys:

(a) sy’n torri hawliau eiddo deallusol trydydd parti;

(b) y gwyddoch ei fod yn anwir neu’n anghywir;

(c) sy’n gyfystyr â thor-ymddiriedaeth cyfreithadwy neu sy’n torri hawliau preifatrwydd unrhyw drydydd parti;

(d) sy’n anllad neu sy’n difenwi unrhyw berson;

(e) sy’n eich cynnwys chi wrth bersonadu unrhyw berson, cydweithfa neu endid heb eu cydsyniad;

(f) sy’n datgan yn ffug neu sydd fel arall yn camliwio’ch cysylltiad ag unrhyw berson, cydweithfa neu endid;

(g) sy’n trin unrhyw berson, testun neu sefydliad sy’n gysylltiedig â’r Cynnwys mewn modd gwamal, cyffrogarol neu ddiraddiol; neu

(h) sy’n torri unrhyw rai o gyfreithiau neu reoliadau Cymru a Lloegr neu sy’n amhriodol mewn modd arall.

2. Rydych yn cytuno na fyddwch yn dileu unrhyw ddyfrnod digidol, llinell gydnabod na mesur amddiffyn technegol arall a ddefnyddir mewn cysylltid â’r Cynnwys.

3. Rydych yn cytuno na fyddwch yn hacio’r Cynnwys sy’n cael ei gadw gan yn Rhestr, yn ymyrryd ag ef nac yn ei dynnu.

4. Rydych yn cytuno, os ydym ni fel cymedrolwr yn barnu, fel y gwelwn ni – a ni’n unig – orau, fod unrhyw Gynnwys a ychwanegwyd gennych at y Rhestr yn torri unrhyw rai o ddarpariaethau rhif 1 yn y telerau uchod, na fydd yn cael ei gyhoeddi’n fyw ac na fydd defnyddwyr y Rhestr yn gallu ei weld.

5. Rydych yn cytuno mai dim ond yn yr iaith y cyflwynwyd hi y bydd eich gwybodaeth yn cael ei llwytho i’r wefan.