Skip to main content

Telerau ac Amodau

Hawlfraint

Diogelir yr holl ddeunydd ar y wefan hon gan hawlfraint.

Gall deunydd sydd â hawlfraint y Goron gael ei ddefnyddio ar gydraniad isel o dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol 1.0.

Rhaid i bob deunydd a ddefnyddir o dan y drwydded hon gael ei gydnabod fel a ganlyn: © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Os hoffech chi ddefnyddio deunydd ar y wefan hon neu unrhyw wybodaeth neu ddelwedd arall o’n harchif at ddibenion masnachol, ewch i archebu deunydd or archif a llenwch y Ffurflen Caniatâd i Atgynhyrchu. O dan rai amgylchiadau, gellir codi ffi ac mae rhestr o’r ffioedd am atgynhyrchu delweddau i’w gweld yn Ffioedd Atgynhyrchu Delweddau .

Daw peth o’r deunydd ar y wefan o dan hawlfraint a ddelir gan eraill, a gall fod angen i’r Comisiwn Brenhinol anfon ceisiadau i’w atgynhyrchu ymlaen at ddeiliad penodol yr hawlfraint i gael ei ganiatâd hwythau. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â ni.

Ni cheir atgynhyrchu’r cyfan na rhan o logo’r Comisiwn Brenhinol heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Gall y Comisiwn Brenhinol dynnu’n ôl unrhyw ganiatâd i lwytho delweddau neu ddeunydd i lawr o’r wefan hon, neu ei atgynhyrchu, os defnyddir y deunydd mewn ffordd sydd, yn ein barn ni, yn niweidiol, neu a allai fod yn niweidiol, i enw da Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Diogelir dyluniad, graffigwaith a threfniant pob un o’r lluniau a’r testun yn y wefan gan hawlfraint sy’n eiddo i CBHC, darparwyr ei chynnwys neu ei darparwyr technegol.

Y datganiad llawn o hawlfraint ar gyfer deunydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw:

Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.