Beth yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol?

Mynegai o enwau ar gyfer lleoliadau daearyddol adnabyddadwy wedi’u casglu o amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol drwy nifer o wahanol brosiectau yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru.

Mae’r Rhestr wedi’i seilio ar ymchwil a wnaed eisoes i enwau lleoedd ac mae’n cynnwys y gwahanol enwau a sillafiadau a ddefnyddiwyd i ddynodi aneddiadau, adeiladau, caeau a nodweddion tirweddol yng Nghymru. Rhestr fyw yw hon a fydd yn tyfu a datblygu yn sgil ymchwil pellach.

Gan gydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol i hanes a diwylliant Cymru, cynhwysodd Llywodraeth Cymru ddarpariaeth ar gyfer rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn llunio ac yn cynnal y Rhestr ar ran Gweinidogion Cymru.

 

Beth yw pwrpas y Rhestr?

Pwrpas y Rhestr yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o dreftadaeth gyfoethog Cymru o ran ei henwau lleoedd ac annog pobl i barhau i’w defnyddio oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol.

Mae’r Rhestr ar gael am ddim ar-lein a thrwy’r cofnodion amgylchedd hanesyddol, ac yn gofnod datblygol o wybodaeth awdurdodol am enwau lleoedd hanesyddol a all gael ei ddefnyddio i:

  • helpu’r cyhoedd i ddysgu am hanes eu cymunedau;
  • cynorthwyo ymchwil academaidd; a
  • llywio penderfyniadau ar reoli’r amgylchedd hanesyddol.

 

Disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio’r Rhestr wrth wneud penderfyniad ar enwi neu ailenwi strydoedd ac adeiladau. Mae’r arweiniad statudol, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol: Llunio a Defnyddio, yn nodi sut y dylai’r cyrff cyhoeddus hyn ddefnyddio’r Rhestr wrth gyflawni eu swyddogaethau.

 

Sut y gellir defnyddio’r Rhestr?

Adnodd a grëwyd at ddefnydd y cyhoedd a phobl broffesiynol fel ei gilydd yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Mae hi’n:

  • Gwefan ddwyieithog, sy’n caniatáu chwilio wedi’i seilio ar destun a mapiau. Mae defnyddwyr y wefan yn cael eu hannog i wella’r Rhestr drwy gynnig sylwadau ar enwau lleoedd, megis amrywiadau sillafu, enwau gwahanol neu awgrymiadau ar gyfer cywiriadau. Mae rhwydd hynt iddynt lwytho canlyniadau eu chwiliadau i lawr (gall hyd at 4,000 o gofnodion geo-leoledig gael eu llwytho i lawr yn ystod pob chwiliad).
  • Gwasanaeth Nodweddion Gwe (WFS) byw, y gellir ei gyrchu o fewn pob cofnod amgylchedd hanesyddol, awdurdod cynllunio lleol ac adran y llywodraeth yng Nghymru.

 

I gael cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r wefan hon, ewch i’r tudalennau Cymorth.

 

Sut mae’r Rhestr wedi cael ei rhoi wrth ei gilydd?

Daw’r enwau lleoedd a geir yn y Rhestr adeg ei lansio o dair prif ffynhonnell:

  • enwau a gasglwyd gan wirfoddolwyr ar-lein o fapiau Arolwg Ordnans hanesyddol drwy brosiect Cymru1900Wales;
  • enwau a gasglwyd gan wirfoddolwyr ar-lein o raniadau degwm drwy brosiect Cynefin; ac
  • enwau a gasglwyd gan Dr David Parsons yn ei ymchwil ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ‘Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru’.

 

Gydag amser, caiff llawer mwy o enwau eu hychwanegu wrth i waith ymchwil a phrosiectau pellach gael eu cwblhau – ewch i’r blog i ddarganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu’r Rhestr.

 

Cynlluniau at y dyfodol:

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal ac yn gwella’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru drwy:

  • creu cofnodion enwau lleoedd hanesyddol newydd o ddata a gesglir o amryw ffynonellau;
  • adolygu a newid y cofnodion presennol i gywiro gwallau trawsysgrifol a gwallau eraill;
  • cydlynu cyfnewid data am enwau lleoedd rhwng sefydliadau;
  • ymateb i ymholiadau am gofnodion ar y Rhestr; a
  • chynhyrchu erthyglau a threfnu gweithgareddau estyn-allan sy’n hyrwyddo’r Rhestr ac yn cynyddu dealltwriaeth o werth enwau lleoedd hanesyddol Cymru.

 

Mae aelod amser-llawn o’r staff yn gyfrifol am guraduro’r Rhestr ac ateb ymholiadau.