Sut i ddefnyddio a chwilio drwy’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol
-
Chwiliad Cyflym
-
Chwiliad Uwch
-
Lleolwch Fi
-
Map Sgrin Lawn
-
Newid rhwng haenau map Modern a Hanesyddol
-
I weld cofnod a nodir ar y map
-
Defnyddio’r Eirfa
-
Defnyddio data’r Rhestr ar gyfer Cymwysiadau Allanol
Chwiliad Cyflym am gofnod Enw Lle – teipiwch eich chwiliad yn y blwch chwilio yn y gornel dde uchaf a chliciwch Chwilio: bydd hyn yn chwilio am y testun a deipiwyd gennych yn holl gofnodion ein cronfa ddata.
Chwiliad Uwch am gofnod Enw Lle – cliciwch Chwilio yn y brif ddewislen, yna dewiswch Chwiliad Uwch. Mae Chwiliad Uwch yn eich galluogi i chwilio gan ddefnyddio gwahanol hidlyddion, gan gynnwys Sir, Plwyf, Ffynhonnell, Blwyddyn (O & Hyd), Math o Le ac ati.
Y Swyddogaeth Lleolwch Fi – i ffocysu’r map ar eich lleoliad presennol, cliciwch y botwm Lleolwch Fi.
Map Sgrin Lawn – i helaethu’r map i orchuddio’r sgrin gyfan, cliciwch y botwm map sgrin lawn – cliciwch eto i ddychwelyd i’r modd gwylio arferol.
Newid rhwng haenau map Modern a Hanesyddol – drwy ddefnyddio’r botwm dewis haen yng nghornel dde uchaf y ffenestr fap gellir toglo rhwng mapiau modern a hanesyddol yr Arolwg Ordnans.
I weld cofnod a nodir ar y map – dewiswch y marciwr i arddangos ei enw, yna cliciwch ar y testun glas i fynd at y cofnod llawn.
Defnyddio’r Eirfa – cliciwch Cymorth ac yna dewiswch Geirfa o’r gwymplen. Mae’r Eirfa yn rhestru tua 900 o elfennau a geir yn gyffredin mewn enwau lleoedd, y cyfieithiad Saesneg o bob elfen, a dwy enghraifft o enwau lleoedd sy’n cynnwys pob elfen.