Skip to main content

Cynnwys Cymunedol: Trwyddedau a Hawliau Eiddo Deallusol

 

1. Rydym yn cydnabod ac yn cytuno eich bod chi’n cadw unrhyw hawlfraint a holl hawlfraint ac unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill sy’n berthnasol i Gynnwys yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio’r Gwasanaeth hwn, i’r graddau y mae gennych hawliau o’r fath dan y gyfraith berthnasol.

2. Serch yr uchod, rydych yn deall ac yn cytuno, drwy gyflwyno eich Cynnwys i’r Rhestr, eich bod yn awtomatig yn rhoi inni (ac rydych yn mynegi ac yn gwarantu bod gennych yr hawl i roi inni): (1) drwydded ddiwrthdro, barhaol, heb freindal ac nad ydyw’n unigryw i: (a) ddefnyddio, atgynhyrchu a chyfathrebu ynghylch eich Cynnwys o fewn y Gwasanaeth a’r hawl i isdrwyddedu defnydd o’r fath i ddefnyddwyr y Gwasanaeth cyhyd ag y defnyddir y Cynnwys gan unrhyw ddefnyddiwr o fewn y Gwasanaeth dan amodau’r Drwydded Archif Greadigol.

3. Rydych yn cytuno, drwy gyflwyno eich Cynnwys i’r Rhestr, eich bod yn rhoi’n awtomatig i ddefnyddwyr y Gwasanaeth sydd eisiau defnyddio eich Cynnwys neu rannau ohono oddi allan i’r Gwasanaeth drwydded ddiwrthdro, barhaol, heb freindal ac nad ydyw’n unigryw i ailddefnyddio eich Cynnwys at ddibenion anfasnachol neu ddibenion astudio preifat yn unol â thelerau’r Drwydded Archif Greadigol yn unig.

4. Drwy dderbyn y Telerau hyn rydych yn ildio’r holl ‘hawliau moesol’, fel y’u gelwir, o safbwynt y Cynnwys yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio’r Gwasanaeth.