Preifatrwydd
Polisi Cwcis
Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd
O dan Gyfarwyddeb Preifatrwydd yr UE, dylai ymwelwyr â Coflein gael gwybod yn llawn am y cwcis a ddefnyddir gan y wefan a chael dewis peidio â’u defnyddio. Os na ddymunwch roi’ch cydsyniad, a chydnabod felly y gall elfennau o’n gwefan beidio â gweithredu’n unol â’u dyluniad, ewch i’r adran isod ynghylch Rheoli Cwcis i gael cymorth i newid gosodiadau’ch porwr, neu defnyddiwch y ddolen gyswllt yn y troedyn ar gyfer Tynnu Cydsyniad Cwcis Yn Ôl.
Beth yw Cwcis?
Ffeiliau testun bach yw cwcis a chânt eu llunio gan weinydd gwefan i’ch gyriant caled. Ni all ond y wefan a’i lluniodd yn wreiddiol eu darllen neu eu golygu, ac fel rheol cânt eu defnyddio i’ch adnabod chi fel yr un person ar draws pob cais a wnewch chi i weld tudalen ar y we.
Categorïau o Gwcis
I’ch helpu chi i ddeall y ffordd y defnyddiwn ni’n cwcis, yr ydym wedi mabwysiadu pedwar categori o gwci, sef y categorïau a grëwyd gan y Siambr Fasnach Ryngwladol (yr ICC). Dyma nhw:
Categori | Disgrifiad |
---|---|
Cwbl Angenrheidiol | Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn i chi allu symud o amgylch y wefan a defnyddio’i nodweddion, megis mynd i fannau diogel ar y wefan. Heb y cwcis hyn, does dim modd darparu’r gwasanaethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, fel basgedi siopa neu e-filiau. |
Perfformiad | Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am ffyrdd ymwelwyr o ddefnyddio gwefan, er enghraifft, pa dudalennau y bydd ymwelwyr yn ymweld â hwy amlaf, ac a ydynt yn cael neges gwall gan dudalennau’r wefan. Ni fydd y cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n fodd i adnabod ymwelydd. Caiff yr holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn ei hagregu gan dynnu enw pob unigolyn ohoni. Ni ddefnyddir mohoni ond i wella’r ffordd y mae gwefan yn gweithio. |
Darparu Nodweddion | Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i’r wefan gofio’r dewisiadau a wnaethoch (megis eich enw defnyddiwr, eich iaith neu’r rhanbarth yr ydych chi ynddo) a darparu nodweddion gwell a mwy personol. Er enghraifft, gall gwefan roi rhagolygon y tywydd lleol neu newyddion traffig lleol i chi drwy storio, mewn cwci, wybodaeth am y rhanbarth yr ydych chi ynddo ar hyn o bryd. Gellir hefyd ddefnyddio’r cwcis hyn i gofio’r newidiadau yr ydych chi wedi’u gwneud i faint y testun, i’r ffontiau ac i’r rhannau eraill o’r wefan y gallwch chi eu haddasu. Gellir hefyd eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, megis gwylio fideo neu roi sylw ar flog. Gellir tynnu enwau o’r wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu ac ni allant ddilyn eich gweithgarwch pori ar wefannau eraill. |
Targedu neu Hysbysebu | Defnyddir y cwcis hyn i gyflwyno hysbysebion sy’n fwy perthnasol i chi a’ch diddordebau. Fe’u defnyddir hefyd i gyfyngu ar nifer y troeon y gwelwch chi hysbyseb ac i helpu i fesur effeithiolrwydd yr ymgyrch hysbysebu. Fel rheol, cânt eu gosod gan rwydweithiau hysbysebu gyda chaniatâd gweithredydd y wefan. Byddant yn cofio’ch bod chi wedi ymweld â gwefan a chaiff y wybodaeth honno ei rhannu gyda sefydliadau eraill megis hysbysebwyr. Yn bur aml, caiff cwcis targedu neu gwcis hysbysebu eu cysylltu â gweithrediadau sydd gan y wefan ac sydd wedi’u darparu gan sefydliadau eraill. |
Cwcis a ddefnyddir gan enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk
Caiff y cwcis hyn eu defnyddio gan enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk ac maent yn ofynnol er mwyn i’r wefan weithredu’n unol â’i dyluniad.
Enw’r Cwci | Diben y Cwci | Categori’r ICC |
---|---|---|
_ga, _ga <container id> | Defnyddir y cwcis hyn gan Google Analytics i helpu i goladu ystadegau i ddweud wrthym sut mae’n hymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Bydd ein staff yn defnyddio’r wybodaeth honno mewn adroddiadau agregedig i helpu i fesur y profiad a gaiff ein hymwelwyr, a sut y gallem ei wella. | Perfformiad |
Cwci Sesiwn (Enw Ffeil Unigryw – enw ffeil alffaniwmerig 32-digid) | Defnyddir y cwci hwn i storio cyfeiriad at ddata sesiwn. Fe’i defnyddir yn gyffredin i storio sesiynau’r defnyddiwr. Caiff y cwci hwn ei ddileu wrth gau’r porwr. | Perfformiad |
Cwcis a ddefnyddir gan system sylwadau Disqus
Mae system sylwadau Disqus sy’n rhan o enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk yn defnyddio cwcis ychwanegol ac yn caniatáu i bartneriaid osod cwcis er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr gymryd rhan mewn trafodaeth am y wybodaeth sydd ar gael. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma: https://help.disqus.com/en/articles/1717155-use-of-cookies, https://help.disqus.com/en/articles/1944034-cookies-and-data-recipients a https://help.disqus.com/en/articles/1717103-disqus-privacy-policy.
Enw’r Cwci | Math o gwcis | Diben y Cwci | Categori’r ICC |
---|---|---|---|
__qca (Domain: .disqus.com) | Cwcis allanol | Caiff y cwcis hyn eu defnyddio gan Quantcast i storio a thracio gwybodaeth am hyd a lled y gynulleidfa. | Targedu neu Hysbysebu |
mc (Domain: .quantserve.com) | Cwcis allanol | Mae’n ymddangos bod y cwcis hyn yn ymwneud â hysbysebu a gallent dracio’r hyn y mae defnyddwyr yn ei wneud ar Disqus. | Targedu neu Hysbysebu |
UID (Domain: .scorecardresearch.com) | Dadansoddi | Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i hysbysu Disqus am y defnydd a wneir o’i wasanaethau, ac yn benodol i dracio pryd y caiff data ei rannu drwy gyfrwng wijets. | Perfformiad |
UIDR (Domain: .scorecardresearch.com) | Dadansoddi | Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i hysbysu Disqus am y defnydd a wneir o’i wasanaethau. | Perfformiad |
disqus_unique (Domain: .disqus.com) | Cwcis mewnol Disqus | Caiff y cwcis hyn eu defnyddio ar gyfer ystadegau mewnol, ar gyfer ymwelwyr dienw. | Perfformiad |
testCookie (Domain: mediacdn.disqus.com) | Cwcis mewnol Disqus | Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i wirio a yw’r porwr yn derbyn cwcis trydydd parti. | Perfformiad |
Rheoli Cwcis
Mae gwefan enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk wedi’i dylunio i ddefnyddio cwcis i wella’ch profiad o bori. Os byddai’n well gennych, gallwch chi newid gosodiadau’ch porwr i ddileu a/neu atal defnyddio cwcis, ond wedi hynny ni fydd rhannau o’r wefan yn gweithio’n unol â’r bwriad ac fe all gwallau pori ddigwydd. Cewch wybod rhagor am hyn yn rheoli cwcis.