Skip to main content

Mae ambell beth diddorol wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, felly dyma ddiweddariad bach i adael i chi wybod am y newidiadau sydd wedi bod. Yn gyntaf, mae ail gyfrol y Parochialia wedi'i uwchlwytho i gyd, sy'n golygu bod 3878 enw o'r flwyddyn 1699 gennym, yn cynrychioli'r rhan fwyaf o blwyfi Siroedd Dinbych a'r Fflint a Meirionydd, ac ambell blwyf yn Siroedd Caernarfon, Maesyfed a Brycheiniog. Gallwch ddod o hyd iddynt oll drwy chwilio fesul ffynonnellau, neu chwilio am bob enw o'r dyddiad 1699.

Yn ail, siaradodd James yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am y Rhestr, sut mae ei defnyddio, a pha broblemau rydym wedi eu cael wrth ei llunio.

Yn drydedd, rydym wedi cael cyfranniad arall gan aelod o'r cyhoedd, sef rhestr o enwau caeau yn ardal Llanilar, Ceredigion a gasglwyd ym 1976. Beth sy'n fwyaf diddorol am yr enwau hyn yw bod llawer ohonynt yn wahanol i'r enwau a geir ar y mapiau degwm, dim ond rhyw 130 o flynyddoedd yn gynharach. Ewch i weld!

Ac yn olaf, mae'n bosibl bod y rhai yn eich mysg sydd â llygaid barcud wedi sylwi bod gorllewin Sir Gâr wedi bod yn newid ei lliw yn araf! Roedd y pwyntiau sy'n marcio enwau unigol i fod yn lliwiau gwahanol penodol: glas ar gyfer aneddiadau, melin ar gyfer nodweddion topograffigol, brown ar gyfer plwyfi sifil, gwyrdd ar gyfer caeau, coch am enwau heb eu diffinio ayb. Yn anffodus, oherwydd prinder amser, ni fu'n bosibl i ni wneud hyn gyda'r ffynonellau a oedd yn y Rhestr wrth ei lansio, felly ar hyn o bryd mae popeth yn goch, ac eithrio am Cynefin, sy'n wyrdd (gan mai caeau ydynt). Fodd bynnag, mae James wedi bod yn gwario diwrnod pob wythnos yn cywiro trawsgrifiadau a newid lliwiau, gan ddechrau yn Sir Gâr, ac mae ef wedi cyrraedd y pwynt bod hanner gorllewinol y Sir wedi'i golygu a'i diweddaru. Felly os ydych am gael syniad o sut olwg y bydd ar y Rhestr unwaith eu bod 'wedi gorffen' (ni fydd hi wedi gorffen byth...) ewch i orllewin Sir Gâr.