Hyd yn oed MWY o enwau!
Glywsoch chi am brosiect Cymru 1900? Roedd yn brosiect torfoli i drawsysgrifio'r enwau lleoedd ar fapiau ail argraffiad yr Arolwg Ordnans yng Nghymru. Wrth i ni lansio'r Rhestr, cawsom ychydig dros 100,000 o enwau oddi wrth Cymru1900, a mawr yw ein diolch iddynt am gyfrannu mor hael ac mor fawr. Roedd y prosiect yn gymaint o lwyddiant iddo gael ei ymestyn allan at weddill Prydain, gan droi'n GB1900. Cyn i'r prosiect orffen, roedd y gwirfoddolwyr wedi trawsysgrifio dros bum miliwn o enwau lleoedd.
Wele uchod ran o Eilean Leòdhais yn Ynysoedd Heledd, yr Alban. Fel mae'r gwaith o lanhau ein data'n mynd yn ei flaen, sylweddolwyd bod ambell enw'n ymddangos ar fap 1900 nas cynhwyswyd mohono yn y Rhestr. Mae'r broblem yn arbennig o amlwg ym Môn a Sir Gaernarfon. Penderfynwyd felly i fynd yn ôl at GB1900 a chael data newydd. Maent yn rhannu popeth trwy fynediad agored, felly diolch unwaith eto i dîm GB1900 am eich haelioni a'ch gwaith campus! Rydym wedi tynnu'r data o Loegr a'r Alban allan, ac wrthi'n cael gwared ar yr enwau sydd gennym yn barod. Byddwn yn uwchlwytho'r enwau newydd cyn gynted ag y bo modd.