Skip to main content

Ar ddechrau mis Gorffennaf penodwyd Swyddog Enwau Llefydd newydd yn y Comisiwn Brenhinol, a fydd yn gyfrifol am lunio’r Rhestr a’i hyrwyddo ymysg y cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt. Deilydd y swydd newydd yw Dr James January-McCann, a ddaeth atom o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n ddarlithydd yn yr Ieithoedd Celtaidd am ddwy flynedd ar ôl ennill ei ddoethuriaeth ym maes llenyddiaeth Gatholig Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg.

Dywedodd James ‘rwyf wedi cyffroi am ddod i weithio i’r Comisiwn, ac am holl bosibiliadau’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Bydd hi’n arf heb ei hail i ddiogelu ein hanes a’n treftadaeth genedlaethol.’

Ein cynlluniau nesaf ar gyfer y Rhestr yw gorffen llwytho data'r prosiect Cynefin i fyny, sef rhyw 100,000 o enwau eraill, ac wedyn symud ymlaen i gynnwys ffynonellau eraill, fel y Rhestr o Blwyfi Cymru, c.1566, a holiadur Parochalia Edward Lhuwyd. Yn ogystal â hyn, byddwn yn siarad mewn lliaws o ddigwyddiadau cyhoeddus, megis y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol, a chynadleddau academaidd, er mwyn rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl i’r gwaith.

Ar Fawrth 2 Gorffennaf, fe aeth tîm ohonom, yng nghwmni Bill Zajac o Cadw, i lawr i Landrindod i annerch cynhadledd Swyddogion Enwi a Rhifo Strydoedd tri ar ddeg o gynghorau Cymru. Nod ein cyflwyniad oedd dangos iddynt ba mor ddefnyddiol y gallai’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol fod yn eu gwaith, a’u perswadio i wneud defnydd ohoni. Cawsom ymateb ffafriol iawn, a hyd yn hyn, mae chwech o gynghorau ar draws Cymru wedi gofyn am gael defnyddio ein data. Ein gobaith yw cynyddu’r niferoedd hynny, a chael gwneud yr un cyflwyniad i’r cynghorau nad oeddent yn bresennol ar y dydd, fel bod y Rhestr yn tyfu’n arf defnyddiol ac ymarferol wrth amddiffyn ein henwau lleoedd hanesyddol.