Skip to main content

Rhan o’n gwaith gyda’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yw annog pobl o bob cwr o Gymru i anfon eu henwau lleoedd i mewn atom. Bydd yr enwau hyn nid yn unig yn cael eu cynnwys a’u cadw yn y Rhestr am byth, ond bydd modd i’r cyhoedd chwilio amdanynt fesul ffynhonnell ar y wefan hefyd. Fel y gwelwch wrth ddefnyddio’r Chwiliad Manwl ar y wefan, mae’r rhai sydd gennym hyd yn hyn yn enwau tai, ffermydd, caeau, ac yn y blaen, a anfonwyd i mewn gan bobl yng Ngheredigion, boed yn ffrwyth prosiectau enwau lleoedd lleol, neu’n deillio o fapiau a oedd ym meddiant y teulu, neu a luniwyd ganddynt.

Mae dros dri deg o enwau eisoes wedi cael eu casglu gan dri o Geredigion, a mwy ar y ffordd, felly dewch ymlaen, da chi, weddill Cymru! Peidiwch â gadael i’r Cardis ennill y clod i gyd! Mae enwau gennym eisoes o Ffos y Ffin, Pont Siân, ac Aberystwyth, ac yn fuan iawn bydd Cwmystwyth yn dilyn, ond beth am Fethesda, Helygain, Maenclochog neu Batrisio? Beth am Sili neu Abertyleri? Gallwch anfon eich enwau i mewn naill ai trwy’r ffurflen ymholiadau a ddeuir o hyd iddi ar y wefan, drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol, neu drwy siarad â’n Swyddog Enwau Lleoedd, James January-McCann ar ôl iddo roi sgwrs am y Rhestr yn eich bro. (Wrth gwrs, bydd rhaid ichi drefnu i James i ddod i siarad â chi’n gyntaf... mae ef yn rhad ac am ddim!)

Beth ydych yn aros amdani felly? Eiddo pobl Cymru yw’r Rhestr, ac mae’n hanfodol eich bod yn cymryd meddiant ohoni. Mae miloedd ar filoedd o enwau lleoedd nad ydynt ond yn bodoli ar lafar, heb unrhyw gofnod ysgrifenedig ohonynt, a’r unig ffordd y gallwn eu hychwanegu at y Rhestr yw ichi eu hanfon atom. Felly siaradwch â’ch neiniau a’ch teidiau, gofynnwch i’ch haneswyr a’ch gwybodusion lleol, ac anfonwch yr enwau mewn os gwelwch yn dda!

Rhag ofn nad oeddech yn gwrando pan gafodd James ei gyfweld ar Raglen Dei Tomos, dyma'r linc i'r sgwrs isod:

http://www.bbc.co.uk/programmes/b09r7nzk

Mae'r sgwrs yn para o 40:50 hyd 57:05, ac mae'n cynnwys trafodaeth ar sefyllfa bresennol enwau lleoedd yng Nghymru, hanes creu'r Rhestr, a'r ffynnonellau a ddefnyddiwyd wrth ei llunio. Os nad ydych wedi cael y cyfle i fynychu un o'r sgyrsiau y mae James wedi bod yn eu rhoi o gwmpas Cymru, dyma ragarweiniad da i gynnwys a hanes y Rhestr. Mwynhewch!