Radio Cymru
Ceith James ei gyfweld ar raglen Dei Tomos am 6 o'r gloch ar Radio Cymru dydd Mawrth 30 Ionawr, yn sôn am y Rhestr. Gwrandewch am sgwrs ddifyr am rai o'r enwau a'r ffynnonellau sy'n ymddangos yn y Rhestr.

Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll! Mae’n bosibl eich bod wedi sylwi’n barod bod ambell beth wedi newid ar y wefan a’r rhestr ers y Nadolig. Yn ogystal ag ychwanegu rhyw saith gant yn rhagor o enwau o’r Parochialia, rydym wedi ychwanegu mwy o opsiynau i’r peiriant chwilio hefyd. Mae hi bellach yn bosibl chwilio yn ôl rhagor o ffynonellau na Chymru 1900 a Chynefin yn unig drwy fynd i Chwiliad Manwl a dewis y ffynhonnell rydych am ei defnyddio o’r rhestr.
Fel y mae’r flwyddyn yn mynd yn ei blaen byddwn yn ychwanegu ffeiliau sain i’r eirfa, i helpu’r di-Gymraeg ynganu’r elfennau, a bydd criw o wirfoddolwyr o Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn craffu ar yr enwau i gyd i sicrhau ein bod yn cael gwared ag unrhyw gamsillafiadau neu gam-drawsysgrifiadau. Afraid dweud wrth gwrs, y byddwn yn parhau i lanlwytho mwy o enwau newydd i’r Rhestr!