Skip to main content

Ymddiheuriadau am y tawelwch llethol sydd wedi disgyn dros y blog hwn yn ddiweddar, mae’na reswm dilys amdano! Fe gofiwch i ni dderbyn gweddill data Prosiect Cynefin oddi wrth y Llyfrgell Genedlaethol ychydig cyn y Nadolig, ac ers hynny, mae James wedi bod yn mynd trwyddynt a’u glanhau er mwyn eu huwchlwytho i’r Rhestr. Golygai hyn fynd trwy dros 900,000 o gofnodion, a thynnu allan pob un nad oedd yn enw go iawn, megis ‘cae’ neu ‘tŷ a gardd’. Ar ôl gwneud hyn, mae 517,463 o enwau’n weddill. Maent yn cynnwys llawer o enwau Cymraeg, Saesneg neu gymysg, a rhai hynod yn eu plith, fel Cae Dungeon yng Nglasgwm, Sir Faesyfed. Pam bod daeargell ym mhlwyf gwledig tybed? Ceir hefyd yr enw Maes y Droell yn Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych, a gafodd ei enw oherwydd i fenyw gael ei lladd yno gyda throell, yn ôl traddodiad lleol.

Byddai llawer o’r bobl a oedd yn gyfrifol am gasglu’r wybodaeth ar gyfer y degwm yn aml yn ysgrifennu ‘ditto’ yn lle enwau er mwyn arbed amser. Yn ogystal â thynnu allan y cofnodion heb enwau, mae James wedi bod yn tynnu’r dittos allan, a’u cad war wahân. Ychydig dros ugain mil ohonynt sydd. Mae pob cofnod yn dod gyda dolen at yr allwedd ddegwm gwreiddiol, felly bydd hi’n rhwydd mynd trwyddynt a rhoi’r enwau go iawn yn lle’r dittos. Bwriedir gwneud hyn ar ôl uwchlwytho’r hanner miliwn enwau cyntaf.

Rydym yn gobeithio uwchlwytho’r enwau hyn i’r Rhestr dydd Llun, a byddwn yn cyhoeddi’r newyddion ar y blog hwn ac ar ein cyfrif Trydar @RC_EnwauLleoedd, felly cadwch lygad allan!