Diwedd y Parochialia
Fe fydd y rhai ohonoch sydd wedi bod yn dilyn hynt a helynt y Rhestr ers y dechrau'n cofio ein bod wedi bod yn ychwanegu enwau o Barochialia Edward Lhuyd bob yn dipyn ers ychydig flynyddoedd bellach. Mae Cofid a'r cyfnod clo wedi effeithio ar y gwaith yn anffodus, gan ei arafu'n ddirfawr, ac yn wir, mae trafferthion technegol wedi cynyddu at y broblem. Yn ogystal â hyn, tra wrthi'n ddyfal ar y Parochialia, rydym wedi derbyn nifer enfawr o enwau o ffynhonnellau torfol, sef Cynefin a GB1900, a rhaid oedd eu hychwanegu hwythau cyn gynted ag y byddai modd. Ond, er gwaethaf pawb a phopeth, ys dywedai'r hen Ddafydd, dechrau'r mis hwn yr uwchlwythwyd yr enwau olaf o'r Parochialia at y Rhestr. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn enwau o Fro Gŵyr a chyffiniau dinas Abertawe, a rhai yn eu mysg yn enwau Cymraeg ar lefydd a seisnigwyd ers lawer dydd.
Gellir olrhain enwau'r Parochialia fesul cyfrol, fan hyn:
Neu os ydych am edrych ar y cwbl lot ynghŷd, gellir dod o hyd iddo yma: https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/enwaulleoedd/chwilio?q=&cty=00000000-0000-0000-0000-000000000000&src=00000000-0000-0000-0000-000000000000&yrf=1699&yrt=1699&s=1&ps=10
Edward Lhuyd, crewr y Parochialia oedd un o ffigyrau pwysicaf ei oes, a mwyaf ei gyfranniad i faes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Tra'n Guradur Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen anfonodd tri chopi o'i holiadur i bob plwyf yng Nghymru, yn gofyn am wybodaeth ieithyddol, daeryddol, onomastig a gwyddonol am y plwyf. Cyhoeddwyd yr ymatebion mewn tri chyfrol yn Archeologia Cambrensis ym 1908. Mae'r ymatebion yn gabolfa o ran iaith, yn amrywio o Gymraeg i Saesneg a Lladin, weithiau o fewn yr un paragraff, ond maent yn drysorfa o wybodaeth am Gymru ar droad y ddeunawfed ganrif. Gwnaethom ganolbwyntio ar yr enwau lleoedd, yn amlwg, ond pan roddwyd gwybodaeth ychwanegol am y lleoliad, boed yn enw perchennog neu denant y tŷ, neu ychydig o hanes y lle, fe'i rhoddwyd yn y blwch nodiadau, fel help i'r hanesydd neu'r achydd.
Yn anffodus, ni fu'n bosibl i ni ddarganfod union leoliad pob enw. Mae llawer o'r plwyfi, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain, wedi newid llawer dros y ddwy ganrif ers llunio'r Parochialia, a llawer o'r enwau wedi diflannu o dan y trefi a'r diwydiannau a dyfai yn yr ardaloedd hynny. Er gwaethaf hyn, mae'r enwau rheiny yn y Rhestr, a gallwch ddod o hyd iddynt yng nghanol daearyddol bob plwyf. Os ydych yn gwybod lleoliad un o'r llefydd hyn, a wnewch adael i ni wybod os gwelwch yn dda, fel y gallwn eu rhoi yn eu priod lefydd. Gallwch gysylltu â ni yma: https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/cysylltu
Mae'r gwaith o ychwanegu enwau at y Rhestr yn parhau, a'r ffynhonnell nesaf rydym am ei defnyddio yw detholiad o bapurau fferm Argoed yn Nhalybont, Ceredigion a roddwyd i ni gan berchennog y fferm. Byddwn yn adrodd mwy unwaith bod yr enwau yn y Rhestr.