Skip to main content

Yn cychwyn heddiw, bydd dwy intern o'r Adran Hanes a Hanes Cymru'n gweithio ar y Rhestr am gyfanswm o 160 awr. Bydd Jackie Jarocki a Karolina Slizewska, sy'n fyfyrwragedd M.A., yn mewnbynnu enwau o The Place Names of Pembrokeshire gan B.G. Charles, ac yn sicrhau bod yr enwau sydd gennym eisoes yn Sir Benfro wedi'u trawsysgrifio'n iawn. Byddant hefyd yn gyfrifol am newid lliw'r pwyntiau sy'n marcio'r enwau yn y sir, fel sydd eisoes ar droed yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal รข hyn, rydym yn dal i weithio trwy'r Parochialia, ac rydym wedi derbyn nifer o enwau o blwyf Llangynfelyn yng Ngheredigion, a gasglwyd oddi wrth y cyhoedd yn ystod Diwrnod Dathlu Cymuned Llangynfelyn a gynhaliwyd dydd Sadwrn diwethaf.