Skip to main content

Fel y byddwch, mwy na thebyg, yn disgwyl, mae hi wedi bod yn galetach i ni ddatblygu'r Rhestr yn ystod y cyfnod cloi, heb holl adnoddau'r swyddfa, a gyda phlant bach yn rhedeg o gwmpas y tŷ... Ond er gwaethaf pawb a phopeth, mae'r gwaith yn parhau. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar lanhau data yn ystod y cyfnod cloi, yn hytrach na cheisio ychwanegu mwy o enwau, a dim ond ychydig o blwyfi Sir Gâr sydd ar ôl i'w tsecio erbyn hyn.

Yn ogystal â chywiro camsillafiadau a chamdrawysgrifiadau sydd yn y Rhestr yn barod, rydym hefyd wedi bod yn gweithio trwy'r dittos sydd ar ôl o Brosiect Cynefin, a'r gobaith yw y byddwn wedi gorffen hynny, ac yn barod i ychwanegu'r 17,000 enwau rheiny erbyn y Nadolig.

Rydym hefyd wedi derbyn nifer o enwau gan aelodau o'r cyhoedd, a diolch i bawb ohonoch sydd wedi anfon enwau i mewn atom. Byddwn yn adrodd mwy am yr enwau hyn yn y blogbost nesaf.