Skip to main content

Mae'r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol wedi bodoli ers bron i bum mlynedd bellach, ac rydym wedi pasio sawl carreg filltir yn yr amser hynny. Rydym wedi dyblu nifer yr enwau yn y Rhestr i ychydig o dan 700,000 o'r ail ganrif OC hyd heddiw. Mae hyn ar sail gwaith caled ein partneriaid yn y prosiectau mwy, fel Cynefin a GB1900, grwpiau cymunedol megis Menter Iaith Sir Benfro, a'ch gwaith chi'r cyhoedd, o anfon eich enwau lleoedd i mewn atom.

Rydym wedi briffio'r Senedd a llywodraeth leol ar sut y gall y Rhestr gefnogi eu gwaith, a sut gall defnyddio enwau lleoedd hanesyddol oresgyn unrhyw ddadleuon ynghylch enwi strydoedd a llefydd eraill. Mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ledled Cymru'n defnyddio ein data, ac awgryma'r ystadegau rydym wedi'u casglu ein bod yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, gyda mwy o bobl yn ailfeddwl eu penderfyniad i newid enw lle hanesyddol.

Rydym wedi siarad â dwsinau o grwpiau cymunedol a chynhadleddau hanesyddol ar draws y wlad, ac fe allwch fod wedi ein clywed yn trafod enwau lleoedd ar Radio Cymru.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn bod llawer mwy i'w gwneud. Dyma paham rydym wedi lansio holiadur ar y wefan, i ddarganfod sut a phaham rydych chi'r cyhoedd yn ei defnyddio, a sut y credwch y gellir ei gwella. Mae'n hanfodol bod cymaint â phosibl yn ymateb, fel y gallwn gael y syniad gorau posibl o sut y gallwn weithio hyd yn oed yn galetach i warchod ein treftadaeth enwau lleoedd. Gallwch lenwi'r holiadur yma: https://form.jotform.com/220324467445353