Skip to main content

Rydym newydd ddychwelyd o gynhadledd yn Nulyn lle trafodwyd y gwaith pwysig sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd ym maes enwau lleoedd yn Iwerddon. Cawsom nid yn unig gyfle i ddarganfod mwy am enwau Iwerddon, ond hefyd i drafod y gwahanol systemau a gwefannau a ddefnyddir gan y rhai sy'n gweithio yn y maes, er mwyn casglu a diogelu'r enwau rheiny. Mae sawl wefan ddiddorol yn bodoli yn Iwerddon, o'r hyper-leol, Oidhreacht Loch Chon Aortha: http://www.oidhreachtlca.ie/mapa.php i'r genedlaethol, www.logainm.ie. Yn ogystal â hyn, clywsom gan Dr Rebecca Gregory o'r English Place Names Society am y gwaith mae hi wedi bod yn ymgymryd ag ef i gwblhau Arolwg Enwau Lleoedd Swydd Stafford. Edrychwch ar flog y prosiect os ydych am ddarganfod mwy! https://staffordshireplacenames.wordpress.com/

Yn ogystal â hyn, rydym wedi bod yn brwydro ymlaen gyda'r Parochialia, ac yn nesáu at ddiwedd y gyfrol gyntaf. Ar hyn o bryd mae dros ddwy fil o enwau o'r ffynhonnell bwysig hon yn y Rhestr, a byddwn yn parhau i'w hychwanegu nes ein bod wedi gorffen. Hefyd, bydd data o brosiect Perci Penfro, a gynhaliwyd gan Fenter Iaith Sir Benfro yn ein cyrraedd cyn bo hir. Bu hyn yn brosiect i gofnodi enwau caeau'r sir, a bydd o'r herwydd i bob pwrpas yn rhoi cannoedd o enwau newydd diddorol inni. Gwyliwch y gofod hwn!