Skip to main content

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn ychwanegu enwau o sawl ffynhonnell ddiddorol i'r Rhestr. Nawr bod y gwaith ar rai ohonynt wedi'i gwblhau, meddyliwyd ei bod hi'n bryd blogio am rai o'r mwyaf diddorol yn eu mysg, fel eich bod yn gallu cael golwg fwy manwl ar waith y Rhestr.

Y ffynhonell gyntaf yw'r Mynegai i Enwau Lleoedd y Canu Barddol, y cawsom fynediad ati trwy gymwynas hael yr Athro Ann Parry-Owen. Fel mae'r enw'n awgrymu, daw'r enwau hyn o'r corpws enfawr o farddoniaeth Gymraeg ganoleosol sydd wedi cael ei olygu gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Mae'r cerddi wedi'u rhannu'n ddau gorpws gwahanol, sef Cyfres Beirdd y Tywysogion - y rhai a gannodd i Dywysogion Cymru cyn colli ein hannibyniaeth, a Chyfres Beirdd yr Uchelwyr - y rhai a gannodd i deuluoedd bonedd Cymru ar ôl y goncwest.

Fel y byddwch yn gwybod os ydych wedi bod yn dilyn y Rhestr ers y cychwyn, mae llawer o enwau canoloesol ynddi yn barod, llawer ohonynt eto'n rhoddedig gan y Ganolfan. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ffurfiau Lladin ar enwau lleoedd Cymru, gyda rhai ffurfiau Eingl-Normaneg a Saesneg, yn adlewyrchu statws y Lladin fel iaith weinyddiaeth a'r Eglwys, a'r Eingl-Normaneg fel iaith ddyddiol y goresgynwyr Normanaidd. Beth sy'n gwneud yr enwau o'r Mynegai mor werthfawr, ysywaeth, yw'r ffaith eu bod i gyd yn enwau canoloesol Cymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i weld datblygiad enwau Cymraeg ein trefi a phentrefi dros y canrifoedd. Yn ogystal â hyn, ceir enwau Cymraeg ar lefydd sydd ond ag enw Saesneg heddiw, enwau ar lefydd sydd wedi diflannu, ac enwau sydd wedi newid cymaint nad oedd modd eu hadnabod bellach, fel Abermenwenfer yn ardal Tywyn, Meirionydd.

Un o themáu cyson y beirdd oedd i foli ysblander cartrefi eu noddwyr, ac er mwyn gwneud hyn, bu'n rhaid eu henwi. Mae nifer fawr o'r cartrefi hyn yn dal i fodoli, felly mae enwau'r Mynegai'n ein galluogi i olrhain hanes rhai o'n tai'n ôl canrifoedd. Enghraifft da o hyn yw Mathafarn yn Nyffryn Dyfi, sy'n dyddio'n ôl i o leiaf c.1317. Canai'r beirdd i noddwyr ledled Cymru, ac yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith sydd bellach yn rhan o Loegr, fel Pengwern, Colunwy ac Ergyng, felly mae enwau o'r ffynhonnell hon i'w canfod ar hyd a lled y wlad. Mae'n debyg fod yno rai'n lleol i chi! Byddwch yn sylwi ein bod wedi cynnwys rhai o'r enwau ar lefydd yn Lloegr, os oeddent yn agos at y ffin, er mwyn dangos bod Cymru'r oesoedd canol yn fwy na Chymru heddiw, a'r Gymraeg yn perthyn i bob ran ohoni.

Cadwch lygad ar y blog hwn am wybodaeth am y ffynhonnellau eraill sydd wedi'u hychwanegu'n ddiweddar.