Skip to main content

Mae help y cyhoedd wedi bod yn hanfodol i'n gwaith ni ers y cychwyn cyntaf. Mae pobl Cymru wedi anfon enwau unigol, rhestrau o enwau, dogfennau hen a modern, a phob math o fapiau i mewn atom ni i ni gael ychwanegu mwy o enwau at y Rhestr. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob cymorth, a phob enw a roddwyd. Yn anffodus, bu un peth yn rhywstr parhaus i'r gwaith, sef yr angen i geo-leoli'r enwau. Mae angen gwybod, o leiaf yn fras, at ble yn union mae pob enw'n cyfeirio, a chan nad oes gennym ond un aelod o staff, mae'n amhosibl i ni fod â'r gwybodaeth leol manwl angenrheidiol ar gyfer pob man yng Nghymru. Yn yr un modd, mae'r bobl sy'n anfon yr enwau atom yn gwybod yn union ble maent, ond nid ydynt o'r reidrwydd yn gyfarwydd â'r system cyfeirnodau grid i fedru darparu lleoliad digon manwl. Mae'r broblem bellach wedi'i datrys.

Rydym wedi bod yn gwneud ychydig o waith datblygu technegol ar y wefan yn ddiweddar, ac mae'r newidiadau i gyd bellach yn fyw. Fel y gwelwch o'r llun uchod, rydym wedi ychwanegu botwm arall ar ochr chwith y sgrin. Bydd hyn yn galluogi pobl i ddarganfod cyfeirnod unrhyw le yng Nghymru. Y cwbl sydd rhaid ei wneud yw clicio ar y botwm a amlygir mewn coch yn y llun. Bydd hynny'n newid y cyrchwr. Os cliciwch ar y map wedyn, bydd naidflwch yn ymddangos gyda'r cyfeirnod.

Os anfonwch chi'r enw, y cyfeirnod, a dyddiad yr enw (hynny yw, cyn belled ag yr ydych yn ei wybod, ers pryd mae'r enw hwnnw wedi cael ei ddefnyddio) atom, byddwn yn ei ychwanegu at y Rhestr cyn gynted â phosibl. Pan fyddwch wedi gorffen canfod y cyfeirnodau, cliciwch ar y botwm ar y chwith unwaith eto, a daw'r cyrchwr yn ôl i'w ffurf arferol. Rydym yn fawr obeithio y bydd hyn yn fodd clir a hawdd i'r cyhoedd fedru cymryd rhan yn y gwaith, ac i ni fedru casglu llawer mwy o enwau nad ydynt yn ymddangos ar fapiau neu yn nogfennau, ond a erys yn fyw yng nghof y bobl.

Sefydlwyd y Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol oherwydd yr angen i gofnodi enwau hanesyddol Cymru, a'u hamddiffyn rhag cael eu disodli gan enwau newydd creu. Byddwch i gyd yn ymwybodol o'r enghreifftiau mwyaf enwog o hyn, mae'n siŵr, fel i'r enw Happy Donkey Hill ddechrau cael ei ddefnyddio ar gyfer fferm Faerdref Fach oherwydd y warchodfa asynnod newydd, neu i dwristiaid ddechrau galw 'Lake Australia' ar Lyn Bochlwyd. Ein dyletswydd ni yw amddiffyn enwau Cymru a sicrhau y cânt eu defnyddio am genedlaethau i ddod. Er mwyn ein helpu i gyrraedd y nod pwysig hwnnw, mae Cylch yr Iaith wedi anfon atom restr o enwau sydd o dan berygl o'u Seisnigo, ac mae'r enwau hynny bellach yn y Rhestr. Cofiwch, unwaith bod enw lle yn y Rhestr, ceith ei gofio hyd yn oed os yw ef wedi diflannu oddi ar blac y wal, felly mae'n bwysig iawn bod pob enw lle yng Nghymru yn cael ei ychwanegu at y Rhestr i'w ddiogelu.

Gallwch weld yr enwau yma.

Mae'n rhaid cofio hefyd bod hanes yn symud ymlaen drwy'r amser, ac y bydd pethau sy'n fodern nawr yn hanesyddol rhyw ddydd. Dyna pam rydym yn casglu enwau cyfredol, yn ogystal â ffurfiau hanesyddol ar enwau, fel nad yw unrhyw beth yn mynd ar goll. Enghraifft da o hyn yw'r map y darganfuwyd gennym yn ddiweddar yn Felinwynt, Ceredigion, yn dangos enwau tai'r ardal, rhai ohonynt yn hen iawn, rhai eraill yn fodern. Rydym wedi ychwanegu'r enwau at y Rhestr, ac yn awyddus iawn i wneud yr un peth ar gyfer ardaloedd eraill, felly os oes gan eich Cyngor Cymuned, neu'ch pentref fap o enwau lleoedd y fro, tynnwch lun a'i anfon i mewn atom os gwelwch yn dda.