Adroddiad Pum Mlynedd
Mae’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol wedi bodoli ers pum mlynedd bellach, ac mae’r tirlun ynghylch enwau lleoedd wedi newid yn sylweddol ers hynny. Sefydlwyd y Rhestr fel ymateb i’r pryder cynyddol bod treftadaeth enwau lleoedd Cymru’n cael ei cholli yn sgil pryniant tai yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith, twf yn niferoedd y tai haf, a gor-dwristiaeth. Roedd gan y Rhestr ddau bwrpas; yn gyntaf, perswadio aelodau o’r cyhoedd i gadw enwau hanesyddol eu tai ac annog yr awdurdodau lleol i ddefnyddio enwau hanesyddol wrth enwi ac ail-enwi strydoedd a datblygiadau newydd, ac yn ail, i greu cofnod o holl gyfoeth enwau lleoedd Cymru, fel bod modd cadw’r enwau’n fyw, hyd yn oed yn yr achosion lle nad oeddent bellach yn weladwy ar waliau’r tai.
Ar ôl pum mlynedd o waith caled, rydym wedi profi cryn lwyddiant. Mae’r Rhestr bellach yn cynnwys ychydig dan 700,000 enw o 1254 ffynhonnell ac mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn defnyddio ein data ac yn cadw enwau hanesyddol yn fyw trwy eu defnyddio ar arwyddion stryd. Rydym wedi rhoi dwsinau o sgyrsiau cyhoeddus ar bwnc enwau lleoedd, ar lein ac wyneb yn wyneb, ac mae rhai ohonynt ar gael ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol. https://www.youtube.com/watch?v=HJccnH93BA0&t=8s Rydym wedi gweld gwelliant yn sgil sefydlu’r Rhestr, ond nid da lle gellir gwell.
Mae pumed penblwydd y Rhestr yn rhoi cyfle i ni gymryd stoc a gofyn barn y cyhoedd a’r arbennigwyr ynglŷn â sut gallen ni gryfhau’r Rhestr a’i hybu’n fwy effeithlon ymysg y cyhoedd, fel bod cymaint â phosibl o bobl Cymru’n gallu dysgu am ein henwau lleoedd ni. Llenwyd holiadur gan aelodau o’r cyhoedd, yn gofyn iddynt leisio eu barn am sut y gellid gwella’r Rhestr, a ffurfiwyd grŵp tasgio a gorffen gyda chynrychiolwyr o’r Llywodraeth, llywodraeth lleol, Cadw, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ystyried beth fyddai’r camau nesaf i’w cymryd.
Mae’r broses honno bellach wedi’i chwblhau, a gallwch ddod o hyd i’r adroddiad terfynol yma. Y gobaith yw y bydd dilyn cymhellion yr adroddiad yn fodd i ni dyfu’r Rhestr, a sicrhau ein bod yn cadw treftadaeth enwau lleoedd amhrisiadwy Cymru’n ddiogel i genedlaethau i ddod.
If you want to view or submit comments... (translation needed)