Skip to main content

GB1900

Yr enwau a gasglwyd gan Brosiect GB1900 yw un o’r grwpiau mwyaf o enwau sydd yn y Rhestr, a dyna un o’r ffynhonnellau cyntaf yr ychwanegwyd ati wrth ei lansio’n ôl yn 2016. Bu gennym ryw 100,000 enw o GB1900, yn enwau tai, creigiau, nentydd, coedwigoedd ac yn y blaen. Fe’u cymerwyd o ail argraffiad mapiau’r Arolwg Ordnans, a gwblhawyd rhwng 1898-1908, sef un o’r mapiau y gellir eu defnyddio wrth bori’r wefan.

Fodd bynnag, daeth hi’n amlwg bod nifer o fylchau’n aros, yn enwedig ym Môn a Gwynedd, lle’r oedd enwau i’w gweld yn glir ar y mapiau, ond heb bwyntiau iddynt fel enwau a gofnodwyd. Mae Prosiect GB1900 wedi dod i ben bellach, gan gasglu miliynau o enwau ar draws Prydain, felly cysylltasom â hwy i weld pa enwau o Gymru oedd yn weddill. Ar ôl tynnu allan yr enwau a oedd gennym yn barod, gadawyd rhyw 10,000 o enwau, ac fe’u hychwanegwyd hwythau at y Rhestr ar ddechrau’r mis hwn, gan lenwi’r bylchau – rhyddhâd mawr i bobl y Gogledd-Orllewin mae’n siŵr!

Ynghŷd â’r enwau newydd o’r Parochialia a gafodd eu huwchlwytho’n ddiweddar, golyga hyn fod y Rhestr bellach yn dal 680,280 enw. Yn ogystal â hyn mae rhyw 13,000 enw’n weddill o Brosiect Cynefin sy’n barod i’w hychwanegu, felly rydym yn agos iawn at 700,000 o enwau, neu o’i rhoi ffordd arall, rydym bron wedi dyblu maint y Rhestr ym mhum mlynedd ei bodolaeth.

If you want to view or submit comments... (translation needed)