Mynd i'r prif gynnwys

Dadansoddi enwau lleoedd

Un o ddywediadau mwyaf brathog yr ysgolhaig Syr Ifor Williams oedd ei ymateb mai “dim ond ffyliaid fyddai’n treio esbonio enwau lleoedd” i rywun a ofynnodd am eglurhâd rhyw enw ganddo. Roedd hynny’n dipyn o ormodiaith (gan siarad fel ffŵl proffesiynol megis…) ond erys gwirionedd ynddo o hyd. Hynny yw, er bod y rhan fwyaf o enwau lleoedd Cymraeg yn ddigon hawdd i’w dadansoddi i ni sy’n siarad yr iaith yn rhugl, mae yna rai sy’n peri mwy o broblem. Er enghraifft, gall enwau lleoedd gynnwys rhai dermau sydd heb eu defnyddio yn aml heddiw – ceir enghreifftiau o’r rhain yn ein Geirfa. Mae’n bwysig cofio bod nifer ohonynt yn cynnwys enwau personol nad ydynt mewn defnydd dyddiau’ma ychwaith, fel Bodwylog yn Ynys Môn sydd yn cyfeirio at unigolyn o’r enw Gwylog neu Milog, neu Fachynlleth, sydd, o bosibl yn cofio rhywun o’r enw Cynllaith.

Wedyn ceir enwau sy’n cynnwys geiriau digon dealladwy, ond sydd wedi newid digon dros amser fel nad yw eu hystyr yn gwbl glir ar yr olwg gyntaf. Cymerwch Frymbo yn sir y Fflint er enghraifft. Mae’r enw wedi’i gywasgu o Bryn y Baw, gyda baw yn cael ei ddi-leisio oherwydd i bwyslais yr enw symud i’r elfen gyntaf bryn. Dyma sy’n gyfrifol am y newid o Dref y Clawdd i Drefyclo, ac o Abermaw i Y Bermo hefyd.

Yr unig ffordd i ddod at wir ystyr enw mewn llawer achos yw i ganfod ac astudio pob ffurf hanesyddol hysbys ohono, gyda sylw arbennig i’r ffurfiau cynharaf. Trwy syllu ar ddatblygiad yr enw dros y canrifoedd, daw hi’n haws (gobeithio!) i ddod at yr ystyr gwreiddiol. Ond byddwch yn ofalus! Weithiau gall rhai ffurfiau awgrymu dadansoddiad ceith ei wyrdroi’n nes ymlaen gan ffurfiau cynharach. Enghraifft da o hyn yw Lunnon ym Mro Gŵyr. Cafodd ei gofnodi fel Llwynon gan Edward Lhuyd ym 1699, ond nid yw’r ffurfiau cynharach, megis Lunan ym 1322 yn cefnogi’r dehongliad hwnnw.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod ystyr y rhan fwyaf o enwau lleoedd yn ddigon syml; maent yn cyferio at nodweddion tirweddol. Er gwaethaf hyn, mae pobl yn hoff iawn o greu hanes rhamantaidd dramatig i’w henwau lleol. Ceith pobman sy’n cynnwys y gair coch er enghraifft, ei esbonio fel maes hen frwydr lle staeniwyd y tir gyda gwaed y milwyr a farwodd. Yn anffodus, mae’r gwirionedd yn llawer llai gafaelgar; yn aml iawn mae’r enw’n cyfeirio at liw a chyflwr y pridd.

Mae’n werth dweud bod hi’n bosibl nad yw’r peth mae’r enw’n cyfeirio ato’n bodoli bellach. Rydym yn gwybod bod Cymru wedi’i datgoedwigo dros y canrifoedd. O’r herwydd, os dewch ar draws enw â’r gair coed neu prysg ynddo’n bell o unrhyw goed ei fod yn cyfeirio at goed hanesyddol diflanedig. Mae Cerrig yr Argoed ar lethrau uchaf Dyffryn Ogwen, neu Argoed Fawr, fferm uwchben Talybont yng Ngheredigion yn enghreifftiau o hyn; mae’r ddau enw’n cofnodi pa mor bell i fyny’r mynydd yr arferai’r coed gyrraedd.

Dyma sy’n esbonio pam ein bod yn ychwanegu mwy a mwy o enwau at ein cronfa ddata’n barhaus, a pham rydym yn arddangos popeth ar y map gyda’i gilydd. Po fwyaf yr wybodaeth sydd gan y cyhoedd am ddatblygiad enwau lleoedd, po hawsaf y byddant yn medru eu deall.

If you want to view or submit comments... (translation needed)