Gallwch CHI helpu i gofnodi enwau lleoedd!
Mae help y cyhoedd wedi bod yn hanfodol i'n gwaith ni ers y cychwyn cyntaf. Mae pobl Cymru wedi anfon enwau unigol, rhestrau o enwau, dogfennau hen a modern, a phob math o fapiau i mewn atom ni i ni gael ychwanegu mwy o enwau at y Rhestr. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob cymorth, a phob enw a roddwyd. Yn anffodus, bu un peth yn rhywstr parhaus i'r gwaith, sef yr angen i geo-leoli'r enwau. Mae angen gwybod, o leiaf yn fras, at ble yn union mae pob enw'n cyfeirio, a chan nad oes gennym ond un aelod o staff, mae'n amhosibl i ni fod â'r gwybodaeth leol manwl angenrheidiol ar gyfer pob man yng Nghymru. Yn yr un modd, mae'r bobl sy'n anfon yr enwau atom yn gwybod yn union ble maent, ond nid ydynt o'r reidrwydd yn gyfarwydd â'r system cyfeirnodau grid i fedru darparu lleoliad digon manwl. Mae'r broblem bellach wedi'i datrys.
Rydym wedi bod yn gwneud ychydig o waith datblygu technegol ar y wefan yn ddiweddar, ac mae'r newidiadau i gyd bellach yn fyw. Fel y gwelwch o'r llun uchod, rydym wedi ychwanegu botwm arall ar ochr chwith y sgrin. Bydd hyn yn galluogi pobl i ddarganfod cyfeirnod unrhyw le yng Nghymru. Y cwbl sydd rhaid ei wneud yw clicio ar y botwm a amlygir mewn coch yn y llun. Bydd hynny'n newid y cyrchwr. Os cliciwch ar y map wedyn, bydd naidflwch yn ymddangos gyda'r cyfeirnod.
Os anfonwch chi'r enw, y cyfeirnod, a dyddiad yr enw (hynny yw, cyn belled ag yr ydych yn ei wybod, ers pryd mae'r enw hwnnw wedi cael ei ddefnyddio) atom, byddwn yn ei ychwanegu at y Rhestr cyn gynted â phosibl. Pan fyddwch wedi gorffen canfod y cyfeirnodau, cliciwch ar y botwm ar y chwith unwaith eto, a daw'r cyrchwr yn ôl i'w ffurf arferol. Rydym yn fawr obeithio y bydd hyn yn fodd clir a hawdd i'r cyhoedd fedru cymryd rhan yn y gwaith, ac i ni fedru casglu llawer mwy o enwau nad ydynt yn ymddangos ar fapiau neu yn nogfennau, ond a erys yn fyw yng nghof y bobl.