Mae’r nesaf o’n ffynonellau hanesyddol bellach yn fyw ar y wefan! Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cwblhawyd y gwaith o baratoi’r data a gasglwyd o lawysgrif Peniarth 147 ar gyfer eu cynnwys yn y Rhestr. Fe ychwanegwyd yn agos at fil o ffurfiau hanesyddol ar blwyfi Cymru o’r llawysgrif bwysig hon, yn dyddio o oddeutu 1570, a gasglwyd gan William Dafydd Llywelyn o Langynidr.
Mae’r rhestr yn cynnwys ffurfiau sy’n dangos ôl tafodiaith Sir Frycheiniog, a ffurfiau Cymraeg hynod ddiddorol ar blwyfi a phentrefi De Penfro a Bro Gŵyr. Mae’r map uchod yn dangos dosbarthiad yr enwau hyn o gwmpas Cymru.
Nos Iau 21 Medi, anerchodd James Gymdeithas Hanes Llandinam, ar bwnc ‘Casglu Enwau Lleoedd Cymru’. Fe soniodd am y Rhestr Enwau, gan gynnwys y cyd-destun ieithyddol, hanesyddol a gwleidyddol a roes fod iddi. Esboniodd y math o ffynonellau sy’n cael eu cynnwys yn y rhestr, a’r gwahanol fathau o ddata y mae hyn yn eu rhoi inni. Soniodd hefyd am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol agos: pa ffynonellau eraill y byddwn yn eu hychwanegu at y Rhestr yn y misoedd nesaf, a sut y gall y cyhoedd ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Gorffennodd gan apelio i aelodau’r Gymdeithas i rannu eu henwau lleoedd, boed yn enwau ffermydd, tai, nentydd neu eraill gyda ni. Y gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau bod pobl Cymru’n chwarae rhan flaenllaw ym mhroses creu’r Rhestr. Cafwyd trafodaeth fywiog iawn ar ôl y cyflwyniad, gyda nifer fawr o gwestiynau da. Diolchwn i Gymdeithas Hanes Llandinam am ein gwahodd i’w hannerch. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o sgyrsiau y bydd James yn eu rhoi ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r Rhestr a’i pherthnasedd a’i phwysigrwydd i’r Gymru Gyfoes. Os ydych yn aelod o gymdeithas debyg a’ch bod am i James roi cyflwyniad i’r gymdeithas honno, peidiwch ag oedi cysylltu â ni!