Skip to main content

Mae'r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ddiweddar - bellach mae dros 700,000 o enwau ynddi. Yn ddiweddar rydym wedi uwchlwytho enwau o ddau brif ffynhonell; y cyntaf yw A Study of Breconshire Place Names gan Richard Morgan a Peter Powell, a'r ail yw dau fap o fferm Maes Machreth ger Glantwymyn, Sir Drefaldwyn.

Cafodd A Study of Breconshire Place Names ei gyhoeddi ym 1999, ac mae'n cynnwys ffurfiau hanesyddol ar 340 enwau Cymraeg o'r sir, gydag esboniad am eu tarddiad. Mae'r gwaith o uwchlwytho'r ffurfiau i gyd yn dal i fynd rhagddo, ond ar hyn o bryd mae 555 ohonynt yn y Rhestr. Maent yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddatblygiad rhai o enwau trefi, pentrefi, mynyddoedd ac afonydd Sir Frycheiniog, ac mae ambell enw tŷ yn eu mysg hefyd.

Bu teulu Maes Machreth mor hawl â rhoi hen fap o'u fferm i ni, sy'n dyddio i 1857, ac sy'n dangos enwau caeau'r fferm. Rydym hefyd yn ddigon ffodus bod enwau'r caeau wedi cael eu cofnodi gan y degwm ym 1841, ac felly rydym yn gallu dweud na fu llawer o newid yn yr enwau yn ystod y degawd rhwng y ddau fap. Fodd bynnag, mae'r teulu wedi darparu map modern, gyda'r enwau sydd mewn defnydd heddiw, ac mae cryn dipyn o newid wedi bod yn ystod y 180 o flynyddoedd diwethaf. Mae Cae'r lloi bellach yn Barnfield, a Gwerglodd Adam yn Gae Maen, er enghraifft, ac mae rhai enwau wedi newid lleoliad, fel Cae ogof, sydd wedi symud ar draws y ffordd, a disodli enw Cae pen y geulan.

Gan barhau gydag enwau caeau, rydym yn trafod casglu enwau cyfredol caeau Cymru gyda'r Adran Taliadau Gwledig, felly gobeithiwn yn byddwn yn medru, yn y dyfodol agos, gweld sut mae holl enwau caeau'r wlad wedi newid ers y Degwm, ac efallai byddwn yn gallu llenwi rhai o'r bylchau adawyd gan y Degwm hefyd.

Fel y byddwch chi'n disgwyl i wefan a phrosiect sy'n ymwneud ag enwau lleoedd Cymru, mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i ni. Wedi'r cyfan, o'r iaith honno y deillia'r rhan fwyaf o bell ffordd o'n henwau lleoedd ni! Mae'na filoedd o oedolion yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, yng Nghymru benbaladr a thu hwnt, ac rydym yn credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni i'w cefnogi nhw yn eu hymdrech i ddysgu'r iaith. Dyna un o'r prif resymau yr ychwanegasom ffeiliau sain i'r geirfa, er enghraifft, fel y gwelwch yma.

Rydym hefyd wedi mynd ati i genhadu enwau lleoedd Cymru, a gwaith y Rhestr yn uniongyrchol ymysg y dysgwyr, trwy ddod i siarad â dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Gwnaethom ni gysylltu â'r Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol, a chynnig sgyrsiau ar enwau lleoedd i ddosbarthiadau lefelau Uwch neu Gloywi.

Rydym wedi siarad â phedwar dosbarth yn barod eleni, ac mae mwy ar y gweill, ond fel y mae ein harfer, rydym yn gobeithio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, felly os ydych yn diwtor Cymraeg, neu'n ddysgwr, cysylltwch â ni trwy'r ffurflen ymgysylltu. Gallwn gynnig y sgyrsiau wyneb yn wyneb neu dros Zoom, fel eu bod yn addas ar gyfer pob dosbarth.

Mae'r sgyrsiau wedi teilwra i ffocysu ar enwau lleoedd sy'n lleol (yn fras) i'r dysgwyr, felly maent yn wahanol bob tro. Rhowch gynnig arni!

Yn ogystal â'r sgyrsiau i ddosbarthiadau Cymraeg, mae James hefyd wedi dechrau colofn fisol ar Lingo360, y cylchgrawn ar lein i ddysgwyr. Mae gan bob erthygl eirfa, felly gallwch ei dilyn beth bynnag fo lefel eich Cymraeg chi. Mae dwy erthygl wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn; y cyntaf yn rhagarweiniad cyffredinol i waith y prosiect, y gellir ei weld yma. Mae'r ail yn drafodaeth ar enw Llanbrynmair ym Mhowys, a sut mae'r enw wedi symud i lawr y dyffryn dros y ganrif ddiwethaf. Gallwch ddod o hyd iddi yma.

Yn ail yn ein cyfres o flogiau ar y ffynhonnellau diweddaraf sydd wedi’u hychwanegu at y Rhestr y mae prosiect Mapio Amlhaenog, neu Mapio Dwfn.

Mae Archifau Ystadau Mapio Amlhaenog yn brosiect cydweithredol a ariannwyd gan Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar draws prifysgolion, archifau a sefydliadau treftadaeth Cymru. Mae'r project wedi mapio cofnodion hanesyddol yn ddigidol i'r lleoliadau byd go iawn y maent yn berthnasol iddynt, sy'n caniatáu dadansoddiad manwl o sut mae’r dirwedd wedi parhau a newid.

Mae'r project peilot hwn wedi canolbwyntio ar ardal fechan o Ogledd Ddwyrain Cymru sy'n cynnwys tri phlwyf yn Sir Ddinbych; Llanarmon yn Iâl, Llanferres a Llandegla a thri phlwyf cyfagos yn sir y Fflint; Treuddyn, Nercwys a'r Wyddgrug (cyn belled ag afon Alun). Mae’r project wedi dod ag amrywiaeth eang o fapiau hanesyddol mawr ynghyd i greu map gwe sydd ar gael am ddim i’r cyhoedd:

  • 1869-1874 | Mapio Cyfres Sirol yr Arolwg Ordnans (25.344 modfedd i 1 filltir statud nau 1:2,500)
  • 1871 | Cynllun Tref Arolwg Ordnans (126.72 modfedd i 1 filltir statud neu 1:500)
  • 1837-1848 | Mapio Arolwg Degwm (graddfeydd amrywiol)
  • 1800-1830 | Mapio Tir Caeedig (graddfeydd amrywiol)
  • 1620-1858 | Mapio Ystadau (graddfeydd amrywiol)

Mae'r map gwe yn cyflwyno delweddau wedi'u sganio'n ddigidol o'r mapiau hanesyddol gwreiddiol sydd wedi'u halinio'n ddaearyddol i'r map modern gan ddefnyddio proses a elwir yn geogyfeirio. Mae pob ffynhonnell map hefyd wedi'i 'fectoreiddio'. Mae hyn yn golygu bod siapiau (polygonau) sy'n cyfateb i'r llinellau a dynnwyd ar y mapiau hanesyddol wedi'u creu'n ddigidol, gan alluogi defnyddwyr i glicio ar unrhyw nodwedd o’r dirwedd (darn o gae, adeilad, ffordd) i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r prosiect peilot bellach wedi dod i ben, ac mae ffrwyth yr ymchwil i’w gweld yn gyhoeddus ar wefan y prosiect. Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect a’r mapiau trwy wrando ar ddarlith a roddodd Jon Dollery a Scott Lloyd o’r Comisiwn Brenhinol yma.

Mae’r mapiau i gyd yn frith o enwau lleoedd, ac mae’r enwau i gyd, ychydig dros 2,000 ohonynt, bellach wedi’u hymgorffori yn y Rhestr. Mae hyn yn golygu bod gennym syniad go lew o sut datblygodd enwau lleoedd dalgylch y prosiect dros amser, canys bod gennym bellach enwau lu o’r Parochialia, y Degwm, ac amryw o fapiau cynnar yn yr ardal hon o’r Gogledd-Ddwyrain. Cewch ddod o hyd i’r holl enwau a gasglwyd gan y prosiect yma.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn ychwanegu enwau o sawl ffynhonnell ddiddorol i'r Rhestr. Nawr bod y gwaith ar rai ohonynt wedi'i gwblhau, meddyliwyd ei bod hi'n bryd blogio am rai o'r mwyaf diddorol yn eu mysg, fel eich bod yn gallu cael golwg fwy manwl ar waith y Rhestr.

Y ffynhonell gyntaf yw'r Mynegai i Enwau Lleoedd y Canu Barddol, y cawsom fynediad ati trwy gymwynas hael yr Athro Ann Parry-Owen. Fel mae'r enw'n awgrymu, daw'r enwau hyn o'r corpws enfawr o farddoniaeth Gymraeg ganoleosol sydd wedi cael ei olygu gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Mae'r cerddi wedi'u rhannu'n ddau gorpws gwahanol, sef Cyfres Beirdd y Tywysogion - y rhai a gannodd i Dywysogion Cymru cyn colli ein hannibyniaeth, a Chyfres Beirdd yr Uchelwyr - y rhai a gannodd i deuluoedd bonedd Cymru ar ôl y goncwest.

Fel y byddwch yn gwybod os ydych wedi bod yn dilyn y Rhestr ers y cychwyn, mae llawer o enwau canoloesol ynddi yn barod, llawer ohonynt eto'n rhoddedig gan y Ganolfan. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ffurfiau Lladin ar enwau lleoedd Cymru, gyda rhai ffurfiau Eingl-Normaneg a Saesneg, yn adlewyrchu statws y Lladin fel iaith weinyddiaeth a'r Eglwys, a'r Eingl-Normaneg fel iaith ddyddiol y goresgynwyr Normanaidd. Beth sy'n gwneud yr enwau o'r Mynegai mor werthfawr, ysywaeth, yw'r ffaith eu bod i gyd yn enwau canoloesol Cymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i weld datblygiad enwau Cymraeg ein trefi a phentrefi dros y canrifoedd. Yn ogystal â hyn, ceir enwau Cymraeg ar lefydd sydd ond ag enw Saesneg heddiw, enwau ar lefydd sydd wedi diflannu, ac enwau sydd wedi newid cymaint nad oedd modd eu hadnabod bellach, fel Abermenwenfer yn ardal Tywyn, Meirionydd.

Un o themáu cyson y beirdd oedd i foli ysblander cartrefi eu noddwyr, ac er mwyn gwneud hyn, bu'n rhaid eu henwi. Mae nifer fawr o'r cartrefi hyn yn dal i fodoli, felly mae enwau'r Mynegai'n ein galluogi i olrhain hanes rhai o'n tai'n ôl canrifoedd. Enghraifft da o hyn yw Mathafarn yn Nyffryn Dyfi, sy'n dyddio'n ôl i o leiaf c.1317. Canai'r beirdd i noddwyr ledled Cymru, ac yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith sydd bellach yn rhan o Loegr, fel Pengwern, Colunwy ac Ergyng, felly mae enwau o'r ffynhonnell hon i'w canfod ar hyd a lled y wlad. Mae'n debyg fod yno rai'n lleol i chi! Byddwch yn sylwi ein bod wedi cynnwys rhai o'r enwau ar lefydd yn Lloegr, os oeddent yn agos at y ffin, er mwyn dangos bod Cymru'r oesoedd canol yn fwy na Chymru heddiw, a'r Gymraeg yn perthyn i bob ran ohoni.

Cadwch lygad ar y blog hwn am wybodaeth am y ffynhonnellau eraill sydd wedi'u hychwanegu'n ddiweddar.

Byddwch wedi sylwi erbyn hyn bod map 1900 wedi dychwelyd i'r wefan ar ôl ychydig wythnosau o fod ar goll. Roedd hyn yn ganlyniad i newidiadau trwyddedu a thechnolegol y tu ôl i'r llen a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth. Rydym yn falch o allu adrodd bod y problemau bellach wedi'u datrys, a'r dechnoleg wedi'i hadnewyddu. Yn wir, rydym yn gobeithio gallu ychwanegu haenau eraill o fapiau hanesyddol at y wefan yn y dyfodol. Ymddiheuriadau am unrhyw broblemau sydd wedi achosi gan y diffyg mapio dros dro. 

Un ymateb gyson a gafwyd yn yr holiaduron a anfonasom allan oedd bod eisiau gwella'r broses chwilio, a'i symleiddio, fel na fyddai angen sillafu'r enw yr oeddech yn chwilio amdano'n union debyg i'r ffurf a geir yn y Rhestr. Hynny yw, bod modd hepgor cyplysnodau. Rydym wedi gwneud hyn, felly mae'r broses chwilio'n haws i'w defnyddio nac erioed o'r blaen, ac rydym yn siŵr y byddwch yn dod o hyd i hyd yn oed mwy o wybodaeth!

Yn ogystal â hyn, rydym wedi ychwanegu'r gallu i chwilio fesul côd post, fel y gallwch ddod o hyd i'r enwau sydd o gwmpas eich cartref yn haws. Gobeithiwn y bydd y newidiadau hyn yn hwyluso'ch defnydd o'r Rhestr, ac yn peri i chi wario hyd yn oed mwy o amser yn pori trwyddi.