Skip to main content

Roedd gweithio ar brosiect Perci Penfro fel intern yn brofiad hyfryd a diddorol. Dangosodd i mi’r rôl bwysig sydd gan enwau lleoedd yn nyfalbarhad hanes Cymru ac wrth boblogeiddio defnydd pellach o'r iaith Gymraeg bob dydd. Mae'r cysylltiad rhwng tir a dyn yn cryfhau pan fyddwch chi'n gwybod sut i adnabod eich amgylchfyd yn ei iaith frodorol ac mae goblygiadau diwylliannol hyn yn enfawr.  


Hoffwn ddiolch i'r Comisiwn am y cyfle hwn o gael profiad gwaith mewn gweithle cyfrwng Cymraeg ac yn enwedig i'r Swyddog Enwau Lleoedd - Dr James January McCann am ei oruchwyliaeth a’r wybodaeth gefndirol ychwanegol a ddarparodd yn ystod fy mhrofiad gwaith. Dymunaf bob dymuniad gorau i dîm y Comisiwn ym mhob un o'u prosiectau yn y dyfodol.